Nehemiah 9:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a enillasant ddinasoedd cedyrn, a daear fras, ac a feddianasant dai llawn o bob daioni, pydewau cloddiedig, gwinllannoedd, ac olewyddlannoedd, a choed ffrwythlon yn aml; a hwy a fwytasant, ac a ddigonwyd, ac a frasawyd, ac a ymhyfrydasant yn dy fawr ddaioni di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n concro trefi caerog a chymryd tir ffrwythlon. Meddiannu tai yn llawn o bethau da, pydewau wedi eu cloddio, gwinllannoedd, gerddi olewydd, a digonedd o goed ffrwythau. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, a pesgi; roedden nhw'n byw'n fras ar dy holl ddaioni.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon, a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus, pydewau wedi eu cloddio, gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau; bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus, a mwynhau dy ddaioni mawr.