Nehemiah 9:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eto hwy a anufuddhasant, ac a wrthryfelasant yn dy erbyn, taflasant hefyd dy gyfraith o'r tu ôl i'w cefn, a'th broffwydi a laddasant, y rhai a dystiolaethasent wrthynt am ddychwelyd atat; ac a gablasant yn ddirfawr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma nhw'n dechrau bod yn anufudd a gwrthryfela yn dy erbyn di. Troi cefn ar dy Gyfraith di, a lladd dy broffwydi oedd wedi bod yn eu siarsio i droi yn ôl atat — roedden nhw'n cablu yn ofnadwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond fe aethant yn anufudd a gwrthryfela yn dy erbyn. Troesant eu cefnau ar dy gyfraith, a lladd dy broffwydi oedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat, a chablu'n ddirfawr.