Nehemiah 9:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny ti a'u rhoddaist hwynt yn llaw eu gorthrymwyr, y rhai a'u cystuddiasant: ac yn amser eu cyfyngdra, pan waeddasant arnat, a'u gwrandewaist hwynt o'r nefoedd, ac yn ôl dy aml dosturiaethau rhoddaist iddynt achubwyr, y rhai a'u hachubasant o law eu gwrthwynebwyr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma ti'n gadael i'w gelynion eu gorchfygu a'u gorthrymu. Ond dyma nhw'n gweiddi am dy help o ganol eu trafferthion, a dyma ti'n gwrando o'r nefoedd. Am dy fod ti mor barod i dosturio, dyma ti'n anfon rhai i'w hachub o afael eu gelynion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly rhoddaist hwy yn llaw eu gorthrymwyr, a chawsant eu gorthrymu. Yn eu cyfyngder gwaeddasant arnat, ac fe wrandewaist tithau o'r nefoedd; yn dy drugaredd fawr rhoddaist achubwyr iddynt i'w gwaredu o law eu gorthrymwyr.