Nehemiah 9:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pan lonyddodd arnynt, dychwelasant i wneuthur drygioni yn dy ŵydd di: am hynny y gadewaist hwynt yn llaw eu gelynion, y rhai a arglwyddiaethasant arnynt: eto pan ddychwelasant, a gweiddi arnat, tithau o'r nefoedd a wrandewaist, ac a'u gwaredaist hwynt, yn ôl dy dosturiaethau, lawer o amseroedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna, pan oedden nhw'n gyfforddus eto, dyma nhw'n mynd yn ôl i'w ffyrdd drwg. Felly dyma ti'n gadael i'w gelynion gael y llaw uchaf arnyn nhw. Wedyn bydden nhw'n gweiddi am dy help di eto, a byddet tithau'n gwrando o'r nefoedd ac yn eu hachub nhw dro ar ôl tro am dy fod mor drugarog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond pan gawsant lonydd, dechreusant eto wneud drwg yn dy olwg. Gadewaist hwy i'w gelynion, a chawsant eu mathru. Unwaith eto galwasant arnat, a gwrandewaist tithau o'r nefoedd, a'u hachub lawer gwaith yn dy drugaredd.