Nehemiah 9:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thi a dystiolaethaist yn eu herbyn hwynt, i'w dychwelyd at dy gyfraith di: ond hwy a falchiasant, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion, eithr pechasant yn erbyn dy farnedigaethau, (y rhai os gwna dyn hwynt, efe fydd byw ynddynt,) a gwnaethant ysgwydd i gilio, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna roeddet ti'n eu siarsio nhw i droi yn ôl at dy Gyfraith di, ond roedden nhw'n falch ac yn gwrthod gwrando ar dy orchmynion. Dyma nhw'n gwrthod dy ganllawiau — y rhai sy'n rhoi bywyd i'r sawl sy'n ufudd iddyn nhw. Aethon nhw'n fwy a mwy ystyfnig; a gwrthryfela yn lle bod yn ufudd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe'u rhybuddiaist i ddychwelyd at dy gyfraith, ond aethant yn falch a gwrthod ufuddhau i'th orchmynion; pechasant yn erbyn dy farnau sydd yn rhoi bywyd i'r un sy'n eu cadw. Troesant eu cefnau'n ystyfnig, a mynd yn wargaled a gwrthod ufuddhau.