Nehemiah 9:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chodasant i fyny yn eu lle, ac a ddarllenasant yn llyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu DUW, bedair gwaith yn y dydd; a phedair gwaith yr ymgyffesasant, ac yr ymgrymasant i'r ARGLWYDD eu DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buon nhw'n sefyll yno am dair awr, tra roedd Cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw yn cael ei darllen o'r sgrôl, ac yna am dair awr arall yn cyffesu eu pechodau a plygu i lawr i addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Buont yn sefyll yn eu lle am deirawr yn darllen o lyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, ac am deirawr arall yn cyffesu ac yn ymgrymu i'r ARGLWYDD eu Duw.