Nehemiah 9:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr, O ein DUW ni, y DUW mawr, cadarn, ac ofnadwy, yr hwn wyt yn cadw cyfamod a thrugaredd; na fydded bychan o'th flaen di yr holl flinder a ddigwyddodd i ni, i'n brenhinoedd, i'n tywysogion, ac i'n hoffeiriaid, ac i'n proffwydi, ac i'n tadau, ac i'th holl bobl, er dyddiau brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, o ein Duw — y Duw mawr, pwerus, rhyfeddol, sy'n cadw dy ymrwymiad ac sydd mor hael — dŷn ni wedi dioddef caledi ers dyddiau brenhinoedd Asyria (ni y bobl, ein brenhinoedd, arweinwyr, offeiriaid, proffwydi, a'n hynafiaid); paid meddwl mai peth bach ydy hyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yn awr, O ein Duw, y Duw mawr, cryf ac ofnadwy, sy'n cadw cyfamod a thrugaredd, paid diystyru'r holl drybini a ddaeth arnom ar ein brenhinoedd a'n tywysogion, ein hoffeiriaid a'n proffwydi a'n hynafiaid, ac ar dy holl bobl o gyfnod brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.