Nehemiah 9:35 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy ni'th wasanaethasant yn eu brenhiniaeth, nac yn dy fawr ddaioni a roddaist iddynt, nac yn y wlad eang a bras yr hon a osodaist o'u blaen hwynt; ac ni ddychwelasant oddi wrth eu drwg weithredoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnaethon nhw ddim dy wasanaethu di na troi cefn ar eu ffyrdd drwg, hyd yn oed pan oedd popeth ganddyn nhw: teyrnas, dy ddaioni rhyfeddol tuag atyn nhw, a'r tir da a ffrwythlon wnest ti ei roi iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyd yn oed yn eu teyrnas eu hunain ynghanol y daioni mawr a ddangosaist tuag atynt, yn y wlad eang a thoreithiog a roddaist iddynt, gwrthodasant dy wasanaethu a throi oddi wrth eu drwgweithredoedd.