Nehemiah 9:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Lefiaid, Jesua, a Chadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia, a Phethaheia, a ddywedasant, Cyfodwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich DUW o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb: a bendithier dy enw gogoneddus a dyrchafedig, goruwch pob bendith a moliant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn dyma grŵp arall o Lefiaid — Ieshŵa, Cadmiel, Bani, Chashafneia, Sherefeia, Hodeia, Shefaneia, a Pethacheia — yn cyhoeddi, “Safwch ar eich traed a bendithio yr ARGLWYDD eich Duw!” “Bendith arnat ti, O ARGLWYDD ein Duw, o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb! Boed i dy enw gwych di gael ei fendithio, er nad ydy geiriau'n ddigon i fynegi'r fendith a'r mawl!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd y Lefiaid, hynny yw Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia a Pethaheia, "Codwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb: Bendithier dy enw gogoneddus sy'n ddyrchafedig goruwch pob bendith a moliant.