Nehemiah 9:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ti yn unig wyt ARGLWYDD: ti a wnaethost y nefoedd, nefoedd y nefoedd, a'u holl luoedd hwynt, y ddaear a'r hyn oll sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt; a thi sydd yn eu cynnal hwynt oll; a llu y nefoedd sydd yn ymgrymu i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ti ydy'r ARGLWYDD, a dim ond ti. Ti wnaeth greu yr awyr, y gofod a'r holl sêr, y ddaear a phopeth sydd arni, a'r moroedd a phopeth sydd ynddynt. Ti sydd yn cynnal y cwbl, ac mae tyrfa'r nefoedd yn plygu o dy flaen di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ti yn unig wyt ARGLWYDD. Ti a wnaeth y nefoedd, nef y nefoedd a'i holl luoedd, y ddaear a'r cwbl sydd arni, y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt; ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd, ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd.