Nehemiah 9:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chefaist ei galon ef yn ffyddlon ger dy fron di, ac a wnaethost gyfamod ag ef, ar roddi yn ddiau i'w had ef wlad y Canaaneaid, yr Hefiaid, yr Amoriaid, a'r Pheresiaid, a'r Jebusiaid, a'r Girgasiaid; ac a gwblheaist dy eiriau: oherwydd cyfiawn wyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welaist ei fod yn ffyddlon dyma ti'n ymrwymo gydag e i roi gwlad Canaan i'w ddisgynyddion — tir yr Hethiaid a'r Amoriaid, y Peresiaid, y Jebwsiaid a'r Girgasiaid. A dyma ti'n cadw dy air, am dy fod ti'n gwneud beth sy'n iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fe'i cefaist yn ffyddlon i ti, a gwnaethost gyfamod ag ef, i roi i'w ddisgynyddion wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, y Jebusiaid a'r Girgasiaid. Ac fe gedwaist dy air, oherwydd cyfiawn wyt ti.