Numbers 1:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a'u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
pawb sydd dros ugain oed ac yn gallu ymuno â'r fyddin. Ti ac Aaron sydd i drefnu hyn,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyt ti ac Aaron i gyfrif, fesul mintai, bawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd ac yn abl i fynd i ryfel.