Numbers 10:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth, ac uwchben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich DUW: myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Canwch yr utgyrn hefyd ar yr adegau hynny pan fyddwch chi'n dathlu — ar y Gwyliau blynyddol ac ar ddechrau pob mis pan fyddwch chi'n cyflwyno eich offrymau i'w llosgi'n llwyr a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Bydd yr utgyrn yn eich atgoffa chi i gadw'ch meddyliau ar Dduw. Fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hefyd, ar ddydd o lawenydd, ar eich gwyliau penodedig, ac ar ddechrau pob mis, canwch y trwmpedau uwchben eich poethoffrymau a'ch heddoffrymau; byddant yn eich dwyn i gof gerbron eich Duw. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw."