Numbers 10:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y llwythau oedd yn gwersylla o dan faner Jwda aeth gyntaf, adran wrth adran. Roedd adrannau llwyth Jwda dan arweiniad Nachshon fab Aminadab.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Minteioedd gwersyll Jwda oedd y rhai cyntaf i gychwyn dan eu baner, a thros eu llu hwy yr oedd Nahson fab Amminadab.