Numbers 10:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i'r lle am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr ARGLWYDD ddaioni am Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Moses yn dweud wrth Chobab (mab i Reuel o Midian, tad-yng-nghyfraith Moses), “Dŷn ni ar ein ffordd i'r wlad mae'r ARGLWYDD wedi addo ei rhoi i ni. Tyrd gyda ni. Byddwn ni'n dy drin di'n dda. Mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau gwych i bobl Israel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Moses wrth Hobab fab Reuel y Midianiad, tad-yng-nghyfraith Moses, "Yr ydym yn mynd i'r lle yr addawodd yr ARGLWYDD ei roi inni; tyrd gyda ni, a byddwn yn garedig wrthyt, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi addo pethau da i Israel."