Numbers 10:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr ARGLWYDD daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr ARGLWYDD oedd yn myned o'u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gadael mynydd yr ARGLWYDD ac yn teithio am dri diwrnod. Ac roedd Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaenau nhw, i ddangos iddyn nhw ble i stopio a gorffwys.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly cychwynasant o fynydd yr ARGLWYDD ar daith dridiau, ac yr oedd arch cyfamod yr ARGLWYDD yn mynd o'u blaen ar hyd y daith i geisio lle iddynt orffwys.