Numbers 10:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua'r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn pan mae nodyn hir arall yn cael ei seinio, mae'r rhai sy'n gwersylla ar yr ochr ddeheuol i'w dilyn. Y nodyn hir ydy'r arwydd eu bod i symud allan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a phan roddir yr ail floedd, bydd y gwersylloedd ar ochr y de yn cychwyn.