Numbers 10:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a'ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr ARGLWYDD eich DUW, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i chi gyrraedd eich gwlad, os byddwch chi'n mynd i ryfel yn erbyn eich gelynion, rhaid seinio ffanffer ar yr utgyrn yma. Wedyn bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn cofio amdanoch chi ac yn eich achub chi o afael eich gelynion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fyddwch yn mynd i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y rhai sy'n eich gorthrymu, rhowch floedd a chanu'r trwmpedau, er mwyn i'r ARGLWYDD eich Duw gofio amdanoch, a'ch achub rhag eich gelynion.