Numbers 11:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a'u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i'r tir a addewaist trwy lw i'w tadau?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydyn nhw'n blant i mi? Ai fi ddaeth â nhw i'r byd? Ac eto ti'n disgwyl i mi eu cario nhw, fel tad maeth yn cario ei blentyn! Ti'n disgwyl i mi fynd â nhw i'r wlad wnest ti addo ei rhoi i'w hynafiaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ai myfi a feichiogodd ar yr holl bobl hyn? Ai myfi a'u cenhedlodd? Pam y dywedi wrthyf, 'Cluda hwy yn dy fynwes, fel y bydd tadmaeth yn cludo plentyn sugno, a dos hwy i'r wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'w hynafiaid'?