Numbers 11:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o'r ysbryd sydd arnat ti, ac a'i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n dod i lawr i siarad â ti yno. Bydda i'n cymryd peth o'r Ysbryd sydd arnat ti, ac yn ei roi arnyn nhw. Wedyn byddan nhw'n cymryd peth o'r baich oddi arnat ti — fydd dim rhaid i ti gario'r cwbl dy hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe ddof finnau i lawr a llefaru wrthyt yno, a chymeraf beth o'r ysbryd sydd arnat ti a'i roi arnynt hwy; byddant hwy gyda thi i gario baich y bobl, rhag iti ei gario dy hunan.