Numbers 11:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i'w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chwi a fwytewch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A dywed wrth y bobl am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain erbyn yfory. Dywed wrthyn nhw, ‘Byddwch chi'n cael cig i'w fwyta. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n crïo ac yn cwyno, ac yn dweud, “Pwy sy'n mynd i roi cig i ni i'w fwyta? Roedd bywyd yn well yn yr Aifft!” Wel, mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi cig i chi i'w fwyta.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywed wrth y bobl, 'Ymgysegrwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig; oherwydd yr ydych wedi wylo yng nghlyw'r ARGLWYDD, a dweud, "Pwy a rydd inni gig i'w fwyta? Yr oeddem yn dda ein byd yn yr Aifft." Felly fe rydd yr ARGLWYDD i chwi gig, a chewch fwyta.