Numbers 11:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o'ch ffroenau, a'i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu'r ARGLWYDD yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o'r Aifft?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Byddwch chi'n ei fwyta am fis cyfan. Yn y diwedd bydd e'n dod allan o'ch ffroenau chi! Byddwch chi mor sâl, byddwch chi'n chwydu cig! Am eich bod chi wedi dangos diffyg parch at yr ARGLWYDD sydd gyda chi, a cwyno o'i flaen, “Pam wnaethon ni adael yr Aifft?”’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ond am fis cyfan, nes y bydd yn dod allan o'ch ffroenau, a chwithau'n ei gasu; oherwydd yr ydych wedi gwrthod yr ARGLWYDD, sydd yn eich plith, trwy wylo yn ei glyw, a dweud, "Pam y daethom allan o'r Aifft?"'"