Numbers 11:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y disgynnodd yr ARGLWYDD mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o'r ysbryd oedd arno, ac a'i rhoddes i'r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai'r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, ac yn siarad â nhw. A dyma fe'n cymryd peth o'r Ysbryd oedd ar Moses, a'i roi ar y saith deg arweinydd. Pan ddaeth yr Ysbryd arnyn nhw dyma nhw'n proffwydo. Ond dyna oedd yr unig adeg wnaethon nhw hynny.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth yr ARGLWYDD i lawr mewn cwmwl, a llefaru wrtho, a chymerodd yr ARGLWYDD beth o'r ysbryd oedd arno ef a'i roi ar yr henuriaid, y deg a thrigain ohonynt; pan orffwysai'r ysbryd arnynt, byddent yn proffwydo, ond ni wnaent ragor na hynny.