Numbers 11:32 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a'r nos oll, a'r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Buodd y bobl wrthi ddydd a nos y diwrnod hwnnw, a'r diwrnod wedyn, yn casglu'r soflieir. Wnaeth neb gasglu llai na llond deg basged fawr! A dyma nhw'n eu gosod nhw allan ym mhobman o gwmpas y gwersyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd y bobl, a chasglu'r soflieir trwy gydol y dydd hwnnw, trwy'r nos, a thrwy'r dydd drannoeth nes bod yr un a gasglodd leiaf wedi casglu deg homer; yna rhannwyd hwy ymhlith ei gilydd o amgylch y gwersyll.