Numbers 13:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Anfon ddynion i archwilio gwlad Canaan, sef y tir dw i'n ei roi i bobl Israel. Anfon un arweinydd o bob llwyth.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Anfon ddynion i ysbo Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid."