Numbers 13:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae'r bobl sy'n byw yno yn gryfion, ac maen nhw'n byw mewn trefi caerog mawr. Ac yn waeth na hynny, mae disgynyddion Anac yn byw yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac.