Numbers 13:30 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fyny, a pherchenogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yna dyma Caleb yn galw ar y bobl oedd yno gyda Moses i fod yn dawel. “Gadewch i ni fynd, a chymryd y wlad! Gallwn ni ei choncro!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna galwodd Caleb ar i'r bobl dawelu o flaen Moses, a dywedodd, "Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu'r wlad, oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu."