Numbers 13:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yno y gwelsom y cewri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o'r cewri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yno gewri, sef disgynyddion Anac. Roedden ni'n teimlo'n fach fel pryfed wrth eu hymyl nhw, a dyna sut roedden nhw'n ein gweld ni hefyd!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau."