Numbers 14:12 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt‐hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i wedi cael digon! Dw i'n mynd i anfon haint i'w dinistrio nhw! A bydda i'n gwneud dy ddisgynyddion di yn bobl fwy a chryfach na fuon nhw erioed.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trawaf hwy haint a'u gwasgaru, ond fe'th wnaf di'n genedl fwy a chryfach na hwy."