Numbers 14:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a'r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn!
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a troi yn erbyn Moses ac Aaron. “Byddai'n well petaen ni wedi marw yn yr Aifft, neu hyd yn oed yn yr anialwch yma!” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yr Israeliaid i gyd yn grwgnach yn erbyn Moses ac Aaron, a dywedodd y cynulliad wrthynt, "O na buasem wedi marw yng ngwlad yr Aifft neu yn yr anialwch hwn!