Numbers 14:35 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Myfi yr ARGLWYDD a leferais, diau y gwnaf hyn i'r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i'm herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i, yr ARGLWYDD wedi dweud. Dw i'n mynd i wneud hyn i bob un o'r criw sydd wedi dod at ei gilydd yn fy erbyn i. Yr anialwch yma fydd eu diwedd nhw! Dyma ble fyddan nhw'n marw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi, yr ARGLWYDD, a lefarodd; byddaf yn sicr o wneud hyn i bob un o'r cynulliad drygionus hwn sydd wedi cynllwyn yn f'erbyn. Y mae'r diwedd ar eu gwarthaf, a byddant farw yn yr anialwch hwn."