Numbers 15:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i'r ARGLWYDD, o beilliaid ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd‐offrwm.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
[4-5] Rhaid i'r person sy'n cyflwyno'r offrwm gyflwyno offrwm o rawn gydag e. Gyda pob oen sy'n cael ei aberthu a'i losgi'n offrwm rhaid cyflwyno cilogram o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gyda litr o olew olewydd. A hefyd litr o win yn offrwm o ddiod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna y mae'r sawl sy'n offrymu i ddod bwydoffrwm i'r ARGLWYDD, sef degfed ran o effa o beilliaid wedi ei gymysgu chwarter hin o olew;