Numbers 16:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o'r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Moses yn dweud wrth y bobl, “Symudwch i ffwrdd oddi wrth bebyll y dynion drwg yma. Peidiwch cyffwrdd dim byd sydd piau nhw, rhag i chi gael eich ysgubo i ffwrdd gyda nhw am eu bod wedi pechu.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd wrth y cynulliad, "Ewch allan o bebyll y dynion drwg hyn, a pheidiwch chyffwrdd dim o'u heiddo, rhag ichwi gael eich difa am eu holl bechodau hwy."