Numbers 16:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a'u meibion, a'u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma pawb yn symud i ffwrdd oddi wrth bebyll Cora, Dathan ac Abiram. Erbyn hyn roedd Dathan ac Abiram wedi dod allan, ac yn sefyll wrth fynedfa eu pebyll gyda'i gwragedd a'i plant a'i babis bach.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly aethant draw oddi wrth babell Cora, Dathan ac Abiram; a daeth Dathan ac Abiram allan gyda'u gwragedd, eu plant a'u rhai bychain, a sefyll wrth ddrws eu pebyll.