Numbers 16:3 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ymgasglasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, ac a ddywedasant wrthynt, Gormod i chwi hyn; canys y mae yr holl gynulleidfa yn sanctaidd bob un ohonynt, ac y mae yr ARGLWYDD yn eu mysg: paham yr ymgodwch goruwch cynulleidfa yr ARGLWYDD?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n mynd gyda'i gilydd i wynebu Moses ac Aaron, a dweud wrthyn nhw, “Dych chi wedi mynd yn rhy bell. Mae'r bobl i gyd wedi eu cysegru — pob un ohonyn nhw! Ac mae'r ARGLWYDD gyda nhw. Pam ydych chi'n gwneud eich hunain yn bwysicach na gweddill pobl yr ARGLWYDD?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt ymgynnull yn erbyn Moses ac Aaron, dywedasant wrthynt, "Yr ydych wedi cymryd gormod arnoch eich hunain. Y mae pob un o'r holl gynulliad yn sanctaidd, ac y mae'r ARGLWYDD gyda hwy; pam felly yr ydych chwi yn eich dyrchafu eich hunain uwchlaw cynulliad yr ARGLWYDD?"