Numbers 16:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond os yr ARGLWYDD a wna newyddbeth, fel yr agoro'r ddaear ei safn, a'u llyncu hwynt, a'r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o'r gwŷr hyn yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond os fydd yr ARGLWYDD yn gwneud rhywbeth annisgwyl, a'r ddaear yn eu llyncu nhw a'i heiddo i gyd — os byddan nhw'n syrthio'n fyw i'w bedd — byddwch yn gwybod wedyn fod y dynion yma wedi sarhau yr ARGLWYDD!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os gwna'r ARGLWYDD rywbeth newydd, trwy beri i'r ddaear agor ei genau a'u llyncu hwy a phopeth a berthyn iddynt, fel eu bod yn disgyn yn fyw i Sheol, yna byddwch yn gwybod bod y dynion hyn wedi dirmygu'r ARGLWYDD."