Numbers 16:33 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwynt, a'r rhai oll a'r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a'r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw, a popeth oedd ganddyn nhw, yn syrthio'n fyw i'r bedd. Wedyn dyma'r ddaear yn cau drostyn nhw, ac roedden nhw wedi diflannu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly disgynasant hwy, a phawb oedd gyda hwy, yn fyw i Sheol; yna caeodd y ddaear amdanynt, a difawyd hwy o blith y cynulliad.