Numbers 16:38 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i'r allor; canys offrymasant hwynt gerbron yr ARGLWYDD; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y dynion yma wedi pechu, ac fe gostiodd eu bywydau iddyn nhw. Mae'r padellau tân oedd ganddyn nhw yn gysegredig am eu bod wedi eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Felly rhaid eu morthwylio i wneud gorchudd metel i'r allor. Byddan nhw'n arwydd i rybuddio pobl Israel i beidio gwrthryfela.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna y mae thuserau'r rhai a bechodd, ac a fu farw, i'w curo'n blatiau i wneud caead ar yr allor, oherwydd y maent yn sanctaidd am iddynt gael eu hoffrymu gerbron yr ARGLWYDD; felly byddant yn arwydd i bobl Israel."