Numbers 16:45 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Symudwch i ffwrdd oddi wrth y bobl yma, i mi eu dinistrio nhw yn y fan a'r lle!” Ond dyma Moses ac Aaron yn mynd ar eu hwynebau ar lawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ewch ymaith o blith y cynulliad hwn, oherwydd yr wyf am eu difa ar unwaith." Syrthiasant ar eu hwynebau,