Numbers 16:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a lefarodd wrth Cora, ac wrth ei holl gynulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr ARGLWYDD yr hwn sydd eiddo ef, a'r sanctaidd; a phwy a ddylai nesáu ato ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe ato.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac wedyn dyma fe'n dweud wrth Cora a'i ddilynwyr, “Yn y bore bydd yr ARGLWYDD yn dangos pwy ydy'r person mae e wedi ei ddewis a'i gysegru. Bydd yn gadael i'r person hwnnw fynd yn agos ato, i sefyll yn ei bresenoldeb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dywedodd wrth Cora a'i holl gwmni, "Yn y bore bydd yr ARGLWYDD yn datguddio pwy sy'n eiddo iddo ef, pwy sy'n sanctaidd, a phwy sy'n cael dynesu ato; pwy bynnag y bydd ef yn ei ddewis fydd yn cael dynesu ato.