Numbers 16:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ai bychan gennych neilltuo o DDUW Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel, gan eich nesáu chwi ato ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr ARGLWYDD, ac i sefyll gerbron y gynulleidfa, i'w gwasanaethu hwynt?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydy e ddim digon i chi fod Duw Israel wedi'ch dewis chi o blith holl bobl Israel i fod yn agos ato wrth i chi weithio yn y Tabernacl, ac i sefyll o flaen y bobl a'i gwasanaethu nhw?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ai peth dibwys yn eich golwg yw fod Duw Israel wedi eich neilltuo chwi o blith cynulliad Israel, ichwi ddynesu ato a gwasanaethu yn nhabernacl yr ARGLWYDD a sefyll o flaen y cynulliad a gweini arnynt?