Numbers 18:1 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Adywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, Tydi a'th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a'th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron: “Ti a dy feibion a dy berthnasau o lwyth Lefi sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud yn y cysegr. Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am unrhyw ddrwg sy'n cael ei wneud gan yr offeiriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, "Byddi di, dy feibion a'th deulu yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn y cysegr, ond ti a'th feibion yn unig fydd yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn yr offeiriadaeth.