Numbers 18:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i'r ARGLWYDD, a roddais i ti, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr ARGLWYDD, i ti, ac i'th had gyda thi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n rhoi'r rhain i gyd i chi a'ch teulu — yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno gan bobl Israel i'r ARGLWYDD. Chi fydd piau'r rhain bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad dw i, yr ARGLWYDD, yn ei wneud i chi a'ch disgynyddion. Fydd hyn byth yn newid. ”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddaf i ti ac i'th feibion a'th ferched am byth yr holl offrymau sanctaidd a gyflwynir gan bobl Israel i'r ARGLWYDD; bydd hyn yn gyfamod halen am byth gerbron yr ARGLWYDD i ti a'th ddisgynyddion gyda thi."