Numbers 18:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y Lefiaid sy'n cael gweithio yn y Tabernacl, a nhw fydd yn gyfrifol os gwnân nhw rywbeth o'i le. Dydy'r Lefiaid ddim i gael tir yn y wlad iddyn nhw eu hunain. Fydd y rheol yma byth yn newid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae'r Lefiaid i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod, a byddant hwy'n atebol am eu camweddau; bydd hyn yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau. Ni fydd gan y Lefiaid etifeddiaeth ymhlith pobl Israel,