Numbers 18:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i'r ARGLWYDD, o'ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr ARGLWYDD i Aaron yr offeiriad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i chi gyflwyno i'r ARGLWYDD un rhan o ddeg o'r degwm dych chi'n ei dderbyn gan bobl Israel. Mae'r siâr yma i gael ei roi i Aaron yr offeiriad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly yr ydych chwithau hefyd i gyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD o'r holl ddegymau a dderbyniwch gan bobl Israel, ac y mae'r hyn sy'n offrwm i'r ARGLWYDD i'w roi i Aaron yr offeiriad.