Numbers 19:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr ARGLWYDD; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydy rhywun yn cyffwrdd corff marw a ddim yn puro ei hun, mae'r person hwnnw yn llygru Tabernacl yr ARGLWYDD. Bydd yn cael ei dorri allan o Israel, am fod dŵr y puro ddim wedi cael ei daenellu arno. Bydd yn aros yn aflan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd pwy bynnag sy'n cyffwrdd chorff marw unrhyw un, a heb ei olchi ei hun, yn halogi tabernacl yr ARGLWYDD, a bydd yn cael ei ddiarddel o Israel; bydd yn aflan, ac yn parhau'n aflan, am nad yw wedi ei drochi mewn du373?r puredigaeth.