Numbers 19:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma'r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i'r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“‘Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn marw mewn pabell: Mae unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r babell, neu'r rhai oedd yno pan fuodd y person farw, yn aflan am saith diwrnod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"'Dyma'r ddeddf pan fydd rhywun yn marw mewn pabell: bydd unrhyw un a ddaw i mewn i'r babell, ac unrhyw un a oedd ynddi'n barod, yn aflan am saith diwrnod.