Numbers 19:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“A dyma reol arall mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei chadw: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â heffer goch sydd â dim byd o'i le arni — anifail heb nam corfforol ac sydd erioed wedi gweithio gyda iau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Dyma'r ddeddf a'r gyfraith a orchmynnodd yr ARGLWYDD: 'Dywed wrth bobl Israel am ddod buwch atat, un goch heb unrhyw ddiffyg na nam arni, ac na fu erioed dan iau.