Numbers 20:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o'th derfynau di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir? Wnawn ni ddim niwed i unrhyw gnydau na gwinllannoedd, na hyd yn oed yfed dŵr o unrhyw ffynnon. Byddwn ni'n aros ar Briffordd y Brenin yr holl ffordd, nes byddwn ni wedi croesi'r ffin yr ochr arall.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma ni yn Cades, dinas sydd yn ymyl dy diriogaeth di. Yn awr, gad inni fynd trwy dy wlad; nid ydym am fynd trwy dy gaeau a'th winllannoedd, nac am yfed du373?r o'r ffynhonnau, ond fe gadwn at briffordd y brenin, heb droi i'r dde na'r chwith, nes inni fynd trwy dy diriogaeth.'"