Numbers 20:24 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i'r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i'm gair, wrth ddwfr Meriba.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'n bryd i Aaron fynd at ei hynafiaid — mae'n mynd i farw yma. Fydd e ddim yn cael mynd i mewn i'r wlad dw i wedi ei rhoi i bobl Israel am fod y ddau ohonoch chi wedi mynd yn groes i beth ddywedais i wrthoch chi wrth Ffynnon Meriba.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Cesglir Aaron at ei bobl; ni chaiff fynd i mewn i'r wlad a roddais i bobl Israel, am i chwi wrthryfela yn erbyn fy ngorchymyn wrth ddyfroedd Meriba.